Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 26 Medi 2018

Amser: 09.30 - 11.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5089


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mike Hedges AC (Cadeirydd)

Gareth Bennett AC

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Andrew RT Davies AC

Helen Mary Jones AC

Dai Lloyd AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Cathy Madge, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Eurgain Powell, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Staff y Pwyllgor:

Marc Wyn Jones (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Corbyn (Ymchwilydd)

Katy Orford (Ymchwilydd)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd Andrew RT Davies AC i'r cyfarfod fel aelod parhaol newydd o'r Pwyllgor a diolchodd i'r Aelodau blaenorol am eu cyfraniad at ei waith.

 

Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC hefyd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyda chytundeb y Cadeirydd o dan Reol Sefydlog 17.49.

</AI1>

<AI2>

2       Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Broses o Graffu ar y Gyllideb Ddrafft

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Eurgain Powell a Cathy Madge o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar naratif cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 ac ar y disgwyliadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20.

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

Nododd y Pwyllgor yr holl bapurau o dan eitem 3.

</AI3>

<AI4>

3.1   Ymateb gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i'r Gwaith Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015/16

</AI4>

<AI5>

3.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18

</AI5>

<AI6>

3.3   Ymateb gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei Waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

</AI6>

<AI7>

3.4   Ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i adroddiad y Pwyllgor ar Fframweithiau Cyffredin ar gyfer yr Amgylchedd ar ôl Brexit

</AI7>

<AI8>

3.5   Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit

</AI8>

<AI9>

3.6   Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus

</AI9>

<AI10>

3.7   Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar fframweithiau cyffredin ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit

</AI10>

<AI11>

3.8   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Fframwaith Rheoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2023 a Chynllun Gweithredu 2018-2019

</AI11>

<AI12>

3.9   Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch craffu ar gyllidebau carbon

</AI12>

<AI13>

3.10Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft

</AI13>

<AI14>

3.11Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft

</AI14>

<AI15>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

</AI15>

<AI16>

5       Trafod yr adroddiad drafft ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru

Trafododd a chytunodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru.

</AI16>

<AI17>

6       Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Amaethyddiaeth

Derbyniodd y Pwyllgor friff llafar ar Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad.

</AI17>

<AI18>

7       Papur ar waith yn y dyfodol

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd arni. Cytunodd hefyd i wneud gwaith yn y dyfodol ar fioamrywiaeth ac ar seilwaith dŵr Cymru.

</AI18>

<AI19>

8       Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch monitro Brexit

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gwasanaeth Ymchwil ar ddatblygiadau diweddar o ran Brexit ym maes polisi amgylcheddol.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>